Pontio

Ein prif nod yw sicrhau bod ein dysgwyr yn setlo’n dda yn yr ysgol cyn gynted â phosib. Mae llawer o weithgareddau wedi eu cynllunio er mwyn hwyluso’r broses o symud o ysgol gynradd i Ysgol David Hughes. Mae’r rhain yn cynnwys:

Y Pennaeth a Phennaeth Blwyddyn 7 yn ymweld â’r ysgolion cynradd a dysgwyr Blwyddyn 6 yn ystod Tymor yr Hydref.

Noson agored i ddysgwyr a rhieni Bl.6 ym mis Tachwedd (Noson rithiol 2020)
Gweithgareddau Mathemateg yn Nhymor yr Hydref a’r Gwanwyn Amryw o weithgareddau chwaraeon trwy gydol y flwyddyn ysgol gan gynnwys Santa Run cyn y Nadolig.

Cylchgrawn Pontio wedi ei baratoi ar y cyd rhwng dysgwyr Bl.6 y clwstwr a dysgwyr Bl.7 Ysgol David Hughes.

Cywaith pontio blynyddol sy’n amrywio mewn thema – uned o waith ar y cydrhwng y cynradd a’r uwchradd yn ystod Tymor yr Haf.

Dyddiau ymweld i Flwyddyn 6 ym mis Mehefin – ymgyfarwyddo â’r safle a threfniadau’r ysgol; cyfarfod eu hathrawon a gwneud ffrindiau newydd.

Yn fuan yn Nhymor yr Hydref mae cyfle fel arfer i ddysgwyr Bl. 7 dreulio rhai dyddiau yng Nglanllyn i ddod i adnabod ei gilydd a’u hathrawon yn well.

 


Ffordd Pentraeth, Porthaethwy, Ynys Môn, LL59 5SS
Ffôn: 01248 712287 • E-bost: post@ysgoldavidhughes.org