Celfyddydau Mynegiannol
Mae Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol yn cwmpasu pum disgyblaeth, sef celf, cerddoriaeth, dawns, drama, a ffilm a’r cyfryngau digidol. Er bod gan bob un o’r disgyblaethau hyn gorff o wybodaeth a chorff o sgiliau sy’n perthyn yn benodol i’r ddisgyblaeth honno, cydnabyddir eu bod, gyda’i gilydd, yn rhannu’r broses greadigol. Gall natur ddeinamig y celfyddydau mynegiannol ysgogi ac ennyn diddordeb dysgwyr a’u cymell i ddatblygu i’r eithaf eu sgiliau creadigol ac artistig ynghyd â’u sgiliau perfformio.
Cerdd
Celf
Yn CA3 addysgir myfyrwyr i ddatblygu eu creadigrwydd, eu syniadau a’u sgiliau ymarferol. Rhoddir cyfleoedd iddynt ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau, deunyddiau a dulliau, gan gofnodi eu harsylwadau mewn llyfrau braslunio a chyfryngau eraill. Mae myfyrwyr yn dysgu am waith artistiaid a dylunwyr ac yn datblygu’r gallu i ddadansoddi a gwerthuso eu gwaith eu hunain a phobl eraill.
Drama