Iechyd a Lles
Mae Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles yn darparu strwythur holistaidd ar gyfer deall iechyd a lles. Mae’n ymwneud â datblygu gallu dysgwyr i wynebu heriau a chyfleoedd bywyd. Elfennau sylfaenol y Maes hwn yw iechyd a datblygiad y corff, iechyd meddwl, a lles emosiynol a chymdeithasol. Bydd yn cefnogi dysgwyr i ddeall a gwerthfawrogi sut mae gwahanol elfennau iechyd a lles yn gysylltiedig â’i gilydd. Mae hefyd yn cydnabod bod iechyd a lles yn bwysig i alluogi dysgu llwyddiannus.
Addysg Gorfforol
Adran Addysg Gorfforol
Mae disgyblion Ysgol David Hughes yn cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau yn yr adran addysg gorfforol ac mae’r disgyblion, yn aml, yn cael dewis y math o gampau yr hoffent gymryd rhan ynddynt. Drwy wrando ar lais y disgybl, mae disgyblion blwyddyn saith yn ddiweddar wedi gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau newydd megis ‘boxercise’, ‘parqour’ ac yoga, yn ogystal â’r gweithgareddau traddodiadol fel ffitrwydd a phêl rwyd, pêl fasged, hoci, pêl droed, rygbi, badminton a rygbi. Rydym yn hynod lwcus o’r adnoddau arbennig sydd gennym ni yma - cae newydd 3G, neuadd chwaraeon, ystafell ddawns, campfa ag ystafell ffitrwydd, ac mae athrawon yr adran yn frwd dros sicrhau bod pob disgybl yn cyrraedd ei wir botensial yn y pwnc.
Yn ogystal ag iechyd corfforol, mae’r adran yn teimlo bod iechyd meddyliol a chymdeithasol yr un mor bwysig, ac rydym yn ceisio manteisio ar bob cyfle i ddatblygu’r elfennau hyn. Yn aml, mae hyn yn digwydd drwy arlwy arbennig allgyrsiol yr adran, hefo clybiau chwaraeon yn cael eu cynnig cyn oriau ysgol, yn ystod amser cinio ac ar ôl ysgol. Mae disgyblion Ysgol David Hughes wedi profi llwyddiant ar lefel leol, sirol a chenedlaethol, ond yn bwysicach na hyn wedi gwirfoddoli eu hamser i rannu eu profiadau eang gyda disgyblion iau'r ysgol mewn sesiynau allgyrsiol. Rydym hefyd yn trefnu teithiau sgïo, a theithiau i wylio gemau/cystadlaethau gwahanol. Yn y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r adran wedi trefnu teithiau i Fae Colwyn, Caerdydd, Ffrainc a’r Unol Daleithiau.
Addysg Iechyd
Mae’r pwnc hwn yn gyfle i ddisgyblion ystyried a gweithredu ar yr hyn sy’n ein helpu ni i gadw’n iach. Gall hyn gynnwys dilyn y Pum Awgrym Llesol, gosod targedau ar gyfer gwella ansawdd cwsg, ystyried y newidiadau a ddaw yn sgil y glasoed, delwedd y corff a diogelwch y we. Rydym hefyd yn ystyried perthynas iach, delio â straen, bwlio, hiliaeth a stereoteipio. Mae’r pwnc hwn yn rhan o’r Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles ac mae’r tri phwnc – Iechyd, Addysg Gorfforol a Thechnoleg Bwyd yn cydweithio’n agos i sicrhau bod disgyblion yn gweld bod angen ystyried y dair agwedd er mwyn sicrhau ein Iechyd a’n Lles. Rydym yn ffodus iawn o fedru gweithio gyda llu o asiantaethau allanol i’n cefnogi yn y maes hwn, gan gynnwys yr Heddlu, Swyddog Ieuenctid, NSPCC, yr Urdd, Menter Iaith Môn, y Ffermwyr Ifanc, Gorwel, Be Di’r Sgôr (gwasanaeth alcohol a chyffuriau). Mae’r pwnc hwn yn hoff o ddod o hyd i ffyrdd creadigol o gyflwyno gwaith boed hynny ar ffurf gemau, rhaglenni cyfrifiadurol, crefft – sut bynnag yr ydych chi’n hoffi gweithio!
Technoleg Bwyd
Gwaith Bwyd a Tecstilau yn CA3.
Mae dysgwyr blwyddyn 7 yn dysgu am bwysigrwydd dilyn deiet gytbwys er mwyn cael cyrff a meddyliau iach. Maent yn cael y cyfle i flasu bwyd, ac i ddysgu sgiliau ymarferol er mwyn trin bwyd yn saff a hylan.
Yn ystod bl 8 mae’r disgyblion yn cael profiad o wneud gwaith efo bwyd a thecstilau. Gyda bwyd, maent yn dysgu am wahanol gynhwysion tra’n cynhyrchu danteithion blasus ar gyfer tê prynhawn neu fecws. Yn tecstilau, maent yn dysgu sut i ddefnyddio’r peiriant gwnïo yn hyderus, tra’n dylunio a gwneud cynnyrch i helpu storio offer personol.
Mae gwaith bwyd dysgwyr blwyddyn 9 yn seiliedig ar faeth, ond gyda’r prif ffocws ar ddysgu sgiliau ymarferol trwy goginio ystod o seigiau blasus. Mae’r gwaith tescstilau’n seliedig ar y diwydiant ffasiwn a thecstilau, ac yn edrych ar effaith ein dillad ar yr amgylchedd. Y sialens y tro hwn yw ddefnyddio hen ddillad i greu eitem addurniadol ar thema Gymraeg.
Ffair Iechyd a Lles