Uwch Dim Arwain YDH
Cefnogaeth Bugeiliol
Mae gofal bugeiliol effeithiol yn cefnogi disgyblion yn eu datblygiad naturiol ond hefyd yn hwyluso datblygiad eu hunan hyder, sgiliau cymdeithasol a’u gallu i ymdopi hefo cyfnod o newidiadau yn eu bywydau. Mae symud o’r cynradd i’r uwchradd yn gam mawr ond ein gobaith ydi bydd eich plentyn yn teimlo’n rhan o deulu Ysgol David Hughes mewn dim o dro.
Mae gofal bugeiliol, lles a chreu cymdeithas ofalgar yn hynod o bwysig yma yn Ysgol David Hughes ac mae sawl un yno i helpu.
Tiwtor dosbarth
Bydd y tiwtor dosbarth yn dod i adnabod pob disgybl yn unigol yn y dosbarth a dangos diddordeb ynddynt. Rhan o’r dyletswyddau yw rhannu cyhoeddiadau, gwirio’r wisg ysgol a chyflwyno myfyrdod moesol. Nhw fydd cyswllt cyntaf pob plentyn yn y bore ac yn glust i unrhyw bryderon.
Pennaeth Blwyddyn
Pennaeth Blwyddyn fydd yn arwain tiwtoriaid y flwyddyn. Nhw fydd yn cadw llygaid ar gynnydd academaidd ac ymddygiad da y disgyblion. Byddant yn tracio presenoldeb ac yn delio hefo lles y disgyblion. Dylai rhiant gysylltu gyda’r Pennaeth Blwyddyn os oes yna unrhyw bryderon.
Gorad / Harbwr / Porth
Pan fydd profiadau dysgu arferol mewn gwersi yn profi yn anodd i rai disgyblion byddent yn derbyn eu haddysg yn Y Gorad neu’r Porth lle ceir awyrgylch mwy cartrefol a thawel. Gweithreda’r Gorad fel lloches ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion ychwanegol ac angen cymorth. Fe fydd aelodau o’r tim bugeiliol wastad ar gael yn y Porth i helpu. Mae’r Harbwr yn cynnig help anogwyr dysgu i’r rhai sydd yn cael trafferthion ymdopi hefo’r Gwaith.
Swyddog Lles
Mae gan y Swyddog Lles swyddfa yn yr ysgol ac ar gael i geisio datrys unrhyw broblemau prydlondeb / presenoldeb hir dymor.
Cwnselydd
Mae gan yr ysgol gwnselydd proffesiynol sydd yn glust I’r rhai sydd a phroblemau dwys.
Nyrs ysgol
Mae gan y nyrs swyddfa yn yr ysgol ac mae hi ar gael i drafod unrhyw bryderon iechyd.