Cwricwlwm Bl.7
Cyflwyniad i Gwricwlwm Blwyddyn 7
Yma yn Ysgol David Hughes rydym yn selio cwricwlwm blwyddyn 7 o amgylch 6 Maes Dysgu a Phrofiad: Iechyd a Lles; Y Celfyddydau Mynegiannol; Y Dyniaethau; Gwyddoniaeth a Thechnoleg; Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu a Mathemateg a Rhifedd.
Mae’r wybodaeth, sgiliau a phrofiadau a gaiff ein dysgwyr o fewn y meysydd hyn eu harwain tua’r pedwar diben o fod yn:
- ddysgwyr uchelgeisiol a galluog sy’n barod i ddysgu gydol eu bywydau
- gyfranwyr mentrus a chreadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
- ddinasyddion egwyddorol a gwybodus sy’n barod i fod yn ddinasyddion yng Nghymru a’r byd
- unigolion iach a hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
Mae datblygu sgiliau Cymhwysedd Digidol, Llythrennedd a Rhifedd yn greiddiol i’n gwaith a rhinweddau fel dyfalbarhad a dysgu’n annibynnol yn cael eu hyrwyddo ymhopeth a gwnawn. Yn ddiweddar, rydym wedi datblygu ein defnydd o ddysgu cyfunol gan wneud y gorau o dechnoleg pwrpasol i sicrhau’r profiadau dysgu gorau.
Mae’r dysgwyr yn gweithio mewn grwpiau gallu cymysg gyda ffrindiau gan sicrhau eu bod yn hapus a’n llwyddo yn yr ysgol.