Dathlu Llwyddiant
Rydym yn ymfalchio yn holl lwyddiannau ein dysgwyr yma yn Ysgol David Hughes, boed rheini yn llwyddiannau academaidd neu amgen.
Mewn gwersi, mae ein athrawon a’n cymorthyddion dysgu yn dathlu llwyddiannau ein dysgwyr gyda’n stamp dysgwr da ac arddangosfeydd o lwyddiannau’r dysgwyr.
Mae seremoniau gwobrwyo ar ddiwedd Tymor y Gaeaf a Thymor yr Haf i bob blwyddyn ysgol gyda gwobrau a thystysgrifau yn cael eu dosbarthu am amryw o lwyddiannau gan gynnwys presenoldeb ardderchog, cyfranogiad gwerthfawr, llwyddiannau mewn chwaraeon, dysgwr da a chynnydd rhagorol.
Yn fuan ym mis Medi, rydym yn trefnu nosweithiau gwobrwyo i ddathlu llwyddiannau ein dysgwyr TGAU a Lefel A gyda rhieni a’r dysgwyr wrth iddynt symud ymlaen gyda’i addysg.
Yn ychwanegol, mae’r ‘bwrdd brolio’ yn ein ystafell athrawon yn gyfle i longyfarch ein staff ar eu llwyddiannau proffesiynol a phersonol tra mae ein cyfrifon Twitter adrannol yn cynnig platform i ni rannu llwyddiannau ein dysgwyr a’n aelodau staff gyda’r gymuned ehangach.