Dyniaethau
Mae’r Dyniaethau yn cwmpasu Daearyddiaeth, Hanes, Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, Astudiaethau Busnes ac Astudiaethau Cymdeithasol. Gall y Maes hwn gynnau ymdeimlad o ryfeddod, tanio dychymyg ac ysbrydoli dysgwyr i dyfu mewn gwybodaeth, dealltwriaeth a doethineb. Mae’r Maes hwn yn ysgogi dysgwyr i ymwneud â’r materion pwysicaf sy’n wynebu dynoliaeth, gan gynnwys cynaliadwyedd a newid cymdeithasol, ac yn gymorth i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i ddehongli a disgrifio’r gorffennol a’r presennol.
Ym Mlwyddyn 7, mae’r dysgwyr yn astudio 3 uned:
-
Cymru: Yn yr uned hon rydym yn astudio Hanes Cymru o Oes Llywelyn hyd heddiw; yn astudio Daearyddiaeth y wlad ryfeddol hon ac yn edrych ar y Crefyddau / Diwylliannau gwahanol sydd yng Nghymru. Asesir yr Uned drwy’r dysgwyr yn gweithio mewn grwpiau yn creu iMovie sy’n hybu a dathlu Cymru i weddill y byd.
-
Ffoaduriaid: Mae Llais y Dysgwr yn bwysig iawn i ni yn y Dyniaethau a chafwyd cais i wneud uned o waith ar Ffoaduriaid. Rydym yn edrych ar Ddaearyddiaeth Syria a Hanes y Rhyfel Cartref. Yn ogystal rydym yn edrych ar werthoedd, moeseg a hawliau. Asesir yr uned yma drwy drefnu Gŵyl Dathlu Ffoaduriaid mewn grwpiau.
-
Plastig: Dyma uned hynod berthnasol i’r byd sydd ohoni. Rydym yn yr uned yma yn edrych ar foesau a gwerthoedd. Yn ogystal rydym yn edrych ar effaith plastig ar ein byd ac ar lefel leol. Un elfen bwysig o’r uned yma ydi glanhau traeth lleol fel rhan o’n astudiaethau. Asesir yr uned yma drwy Ymson Pysgodyn.
Daearyddiaeth
Ym mlwyddyn 8 mae’r disgyblion yn dechrau gydag uned ar dywydd a hinsawdd. Bydd cyfle i fynd allan i fesur y tywydd o amgylch yr ysgol fel rhan o’r dasg asesu cyntaf ac astudiaeth o dywydd peryglus fel corwyntoedd. Yn yr ail uned, rydym yn astudio Kenya ac yn edrych ar dwristiaeth yno. Ydi twristiaeth yng Nghenya yn cael effaith dda neu ddrwg ar y wlad? Yn olaf, bydd cyfle i astudio Brasil. Sut le yw’r goedwig law a pham bod cymaint o’r boblogaeth yn byw mewn favelas? Ar ddiwedd y flwyddyn, mae cyfle i grŵp o ddisgyblion fynd ar daith gerdded a chaiacio yn ardal Rhoscolyn.
Ym mlwyddyn 9 rydym yn dechrau gydag uned ar beryglon naturiol gan ganolbwyntio ar beryglon tectonig fel daeargryn a tsunami Japan yn 2011. Yna rydym yn astudio un o heriau mwyaf y byd sef newid hinsawdd gan edrych ar achos ac effaith newid hinsawdd. Wedyn, bydd cyfle i gwblhau prosiect ar thema ddaearyddol o’u dewis nhw. Os yn dewis Daearyddiaeth, ar ddiwedd y flwyddyn bydd cyfle i fynd ar daith i Gwm Idwal i weld pa effaith mae pobl yn ei chael ar yr ardal.