Ieithoedd,  Llythrennedd a Chyfathrebu

Mae dysgu a phrofiad yn y Maes hwn yn anelu at alluogi dysgwyr i gyfathrebu’n effeithiol gan ddefnyddio Cymraeg, Saesneg ac ieithoedd rhyngwladol. Mae’n anelu at annog dysgwyr i drosglwyddo’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu am sut mae ieithoedd yn gweithio mewn un iaith er mwyn dysgu a defnyddio ieithoedd eraill.  Ei nod yw cefnogi dysgu ar draws yr holl gwricwlwm a galluogi dysgwyr i ennill gwybodaeth a sgiliau yn Gymraeg, Saesneg, ac ieithoedd rhyngwladol yn ogystal â llenyddiaeth.

Cymraeg

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am yr adran Cymraeg

Saesneg


Rydym yn grŵp o 9 o athrawon Saesneg creadigol a brwdfrydig, sydd bob amser yn ceisio ennyn diddordeb a datblygu hyder a sgiliau ein disgyblion.

Bydd y gwersi’n cynnwys ystod eang o ddarllen ac ymchwil; cynllunio ac ysgrifennu; trafod a chyflwyno. Bydd pob tasg yn sicrhau bod eich sgiliau iaith a chyfathrebu’n cael eu gwella mewn amgylchedd cyfeillgar a chefnogol.

Yn ystod eich gwersi Saesneg, byddwch hefyd yn mwynhau ystod o destunau llenyddiaeth o Atlantis i Azkaban; Chaucer i The Chamber of Secrets; Shakespeare i Stevenson; Flogiau i Voldemort!

Pob lwc i chi ym mlwyddyn 7, a mwynhewch eich gwersi Saesneg!

  • 081220-eng-1
  • 081220-eng-2
  • 081220-eng-3

 

ITM

Yn Ysgol David Hughes, mae disgyblion yn astudio Ffrangeg ac Almaeneg, gan ddechrau gyda Ffrangeg ym mlwyddyn 7 ac yna Almaeneg fel ail iaith dramor ym mlwyddyn 8. Cyfathrebu ac amrywiaeth yw prif ffocws y gwersi. Drwy ddefnyddio pypedau, chwarae rôl, gemau a chaneuon mae disgyblion yn magu hyder a’r gallu ieithyddol i siarad iaith newydd. Yn ystod gwersi, yn ogystal â gartref, anogir y defnydd o dechnoleg megis Linguascope.com, Task Magic a Kerboodle Mae’r rhain yn hwyluso dysgu annibynnol ac yn ategu’r gwersi.
Mae’r disgyblion yn frwdfrydig ac yn mwynhau dod i mewn i ddosbarthiadau llachar a lliwgar. Maent yn teimlo synnwyr o lwyddiant wrth wneud cynnydd gan ddefnyddio’r waliau arddangos ac yn eu llyfrynnau geirfa unigol.

Yn ogystal ag annog Ffrangeg ac Almaeneg yn y gwersi, rydym yn dathlu Diwrnod Ieithoedd Ewrop, a chynnal system gyfaill drwy’r post (pen-pal) disgyblion gydag ysgol yn Lyon ac yn croesawu myfyrwyr o Brifysgol Bangor i gefnogi dosbarthiadau. Hefyd, mae diwylliannau Ffrainc a’r Almaen yn cael eu dathlu, ac anogir y disgyblion i gyfranogi ble bo’n bosibl.

Dilynwch ni ar Twitter i gael gwybod am lwyddiannau ein disgyblion.

 

  • french-1-lrg
  • french-2-lrg
  • french-2-lrg
  • french-4-lrg
  • french-5-lrg
  • french-6-lrg
  • french-7-lrg

Ffordd Pentraeth, Porthaethwy, Ynys Môn, LL59 5SS
Ffôn: 01248 712287 • E-bost: post@ysgoldavidhughes.org