Gwasanaeth Nadolig
Mae’r Gwasanaeth Nadolig yn ddigwyddiad pwysig yng nghalendr yr ysgol. Mae’n gyfle i’r disgyblion ganu, llefaru, actio, dawnsio, bod yn rhan o’r band a’r gerddorfa, bod yn rhan o’r tîm technegol a chreu darnau o gelf i’w harddangos. Caiff y disgyblion ddewis un elusen leol ac un elusen ryngwladol i’w cefnogi ac mae criw ohonynt yn pobi a gwerthu bisgedi er mwyn codi arian.