Cyfranogiad

Mae yna ddigonedd o gyfleoedd i blant gymryd rhan mewn llu o weithgareddau gwahanol, beth bynnag eu diddordeb. Mae yna glybiau coginio, garddio, celf, meddwlgarwch, creu comics, gemau bwrdd, gwyddoniaeth, creu ffilm, TGCh, Mandarin a llawer mwy. Ac mae hynny yn ogystal â’r holl glybiau chwaraeon (pêl droed, pêl fasged, pêl rwyd, gymnasteg, rygbi ac eraill). Ceir hefyd pwyllgorau ECO, Bwyd a Ffitrwydd, Chwaraeon, Arweinwyr Digidol a UNICEF lle mae disgyblion yn cael cyfle i ddylanwadu ar fywyd yr ysgol. Mae’r ysgol yn manteisio ar bob cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol gan gynnwys cyfarfodydd gyda Chyngor Sir Ynys Môn, y Senedd, y Comisiynydd Plant, llefarydd Tŷ’r Cyffredin a hyd yn oed ymweliad gan Lysgennad UDA! Mae ein disgyblion hefyd yn cystadlu mewn eisteddfodau lleol yn ogystal ag Eisteddfod yr Urdd ac Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen a hynny mewn corau, bandiau, cerddorfeydd, drama, llefaru a llenyddiaeth; heb sôn am gymryd rhan mewn llu o weithgareddau STEM gan gynnwys cystadleuaeth F1. Beth bynnag yw diddordeb y disgybl – mae yna rywbeth i bawb!

 

  • cyfranogiad-1-lrg
  • cyfranogiad-2-lrg
  • cyfranogiad-3-lrg

Ffordd Pentraeth, Porthaethwy, Ynys Môn, LL59 5SS
Ffôn: 01248 712287 • E-bost: post@ysgoldavidhughes.org