Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Mae’r Maes hwn yn tynnu ar ddisgyblaethau bioleg, cemeg, gwyddoniaeth gyfrifiadurol, dylunio a thechnoleg, a ffiseg er mwyn dyfnhau gwybodaeth a dealltwriaeth dysgwyr o’r byd. Nid oes modd gorbwysleisio pwysigrwydd gwyddoniaeth a thechnoleg yn ein byd modern. Mae datblygiadau yn y meysydd hyn wedi bod yn gyfrifol am arwain newid yn ein cymdeithas erioed. Mae’r rhain yn sail i arloesi ac yn effeithio ar fywyd pob un, yn economaidd, yn ddiwylliannol ac yn amgylcheddol. Felly bydd Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thecnoleg yn gynyddol berthnasol yn y cyfleoedd y bydd ein hieuenctid ni yn eu profi, a’r dewisiadau y byddan nhw’n eu gwneud mewn bywyd.

Gwyddoniaeth

Yn ystod eu cyfnod ym Mlwyddyn 7, rydym yn cynnig ystod eang o brofiadau i’r disgyblion, ac yn ceisio sbarduno eu diddordeb a’u chwilfrydedd mewn Gwyddoniaeth ymhellach.

Mae cwrs Blwyddyn 7 yn cynnwys 6 uned o waith sef ‘Sgiliau – Croeso i Wyddoniaeth’, ‘Asidau ac alcalïau’, ‘Celloedd’, ‘Egni’, ‘Mater’ a ‘Grymoedd’.

Mae’r unedau hyn yn anelu at ddatblygu sgiliau angenrheidiol y disgyblion a chyfoethogi eu gwybodaeth o’r tri maes gwyddonol – Bioleg, Cemeg a Ffiseg.

Mae’r pedwar diben a gyflwynir yn y Cwricwlwm i Gymru wedi eu plethu i’r dysgu, fel bod yr agweddau hyn yn dod yn rhan naturiol o ddysgu ein pobl ifanc, gan eu paratoi ar gyfer eu taith wyddonol yn y dyfodol.
Cyflwynir profiadau amrywiol er mwyn cyfoethogi’r profiadau dysgu, gan gynnwys defnyddio microsgop ac offer gwyddonol arbenigol, gwneud arbrofion, gwrando ar gyflwyniadau gan siaradwyr gwadd, gweithio mewn parau, mewn grwpiau ac yn unigol. Mae’r disgyblion yn cyflwyno prosiect yn ystod y flwyddyn sydd wedi ei seilio ar ‘y cwestiwn mawr’.
Mae’r gwaith yn cael ei gyflwyno mewn llyfrynnau gwaith manwl ac mewn llyfrau tasg ar wahân. Mae cyfleoedd i’r disgyblion wneud defnydd helaeth o dechnoleg gwybodaeth yn eu gwaith o ddydd i ddydd ac wrth gyflwyno’u gwaith. Trefnir ymweliadau addysgol e.e. i’r ‘Ysgol Gwyddorau Eigion’ ym Mhorthaethwy, lle caiff disgyblion ddiwrnod gwerth chweil yn gwneud arbrofion mewn labordai modern, gwrando ar gyflwyniadau gan aelodau staff profiadol ac ymweld â llong ymchwil y ‘Prince Madog’.
Credwn fod cwrs gwyddoniaeth Blwyddyn 7 yn gyffrous ac yn hynod ddiddorol, gan ysgogi’r dysgwyr i feddwl am y byd o’u cwmpas a deall cysyniadau gwyddonol yng nghyd-destun bywyd go iawn.

Technoleg

Dylunio a Thechnoleg

Yn bresennol yn mlynyddoedd 7 i 9 rydym yn astudio gwahanol brosiectau i addysgu’r dysgwyr am ddefnyddiau a phrosesau gweithgynhyrchu. Mae’r dysgwyr yn dod i ddeall a gwybod sut i ddefnyddio offer llaw elfennol i greu. Maent hefyd yn cael datblygu sgiliau sydd yn ymwneud â’r defnydd o CAD sy’n cynnwys rhaglenni 2D Design a SolidWorks. Mae hyn yn arfogi ein dysgwyr i allu defnyddio y dechnoleg gwneud (CAM) diweddaraf megis Peiriant Torri ac Engrafio â Laser ac Argraffydd 3D. Ym mlwyddyn 9 maent yn cael bod yn greadigol trwy ddylunio iteriadau o syniadau ar gyfer cyd-destun penodol. Trwy’r gwaith i gyd rydym yn taro ar lawer o’r pedwar diben sy’n greiddiol i’r Cwricwlwm Newydd. Mae dyfeisgarwch a chreadigrwydd yn rhedeg trwy llawer rydym yn ymwneud ag ef. Mae’n bwysig ein bod yn gwneud ein dysgwyr yn barod at y dyfodol. Mae meddwl am gynaliadwyedd a’r blaned yn dod trwodd mewn agweddau o’n gwaith trwy ail-ddefnyddio ac ail-feddwl y defnyddiau ar gyfer gwneud.

 

  • 251120-technoleg

 

Cyfrifiadureg

Gwaith Cyfrifiadureg blwyddyn 7

Gosodir tasgau ar Google Classroom lle bydd ddisgyblion yn ymgyfarwyddo a’i ddefnyddio yn y dosbarth ac adref.

Mae gwaith yn cael ei addasu er mwyn diwallu’r Cwricwlwm newydd a thrwy gynnig tasgau ar:

  • Rhwydwaith cyfrifiadurol, ffeilio, cyfrineiriau/Storio a rhannu
  • Codio – Cyflwyno hanfodion codio drwy dasgau ar wefan Hour of Code; defnyddio dyfeisiau Microbit i ddatblygu meddwl cyfrifiadurol
  • Edrych ar dechnolegau newydd ym maes TGCh
  • Taenlennu a modelu
  • Trafod cyfryngau cymdeithasol, ymddygiad ar-lein, hunaniaeth, delwedd ac enw da
  • Datblygu sgiliau TGCh gyda chyhoeddi pen bwrdd (DTP), graffeg a phrosesu geriau drwy gynllunio, cyrchu a chwilio Graffeg – creu logos
  • computer-1-lrg
  • computer-2-lrg
Ffordd Pentraeth, Porthaethwy, Ynys Môn, LL59 5SS
Ffôn: 01248 712287 • E-bost: post@ysgoldavidhughes.org