Ffôn: 01248 712287 • E-bost: post@ysgoldavidhughes.org
Chweched Dosbarth
Croeso i dudalennau’r Chweched dosbarth!
Croeso i dudalennau’r 6ed Dosbarth! Gobeithiwn y cewch ragflas o fywyd yn y Chweched Dosbarth wrth bori trwy’r tudalennau hyn.
Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau Safon Uwch, Lefel 3 a BTEC i tua 110 o fyfyrwyr yn flynyddol. Bydd y rhan fwyaf o’n myfyrwyr yn dilyn tri neu bedwar cwrs ym mlwyddyn 12 yn ogystal â’r Tystysgrif Her Sgiliau (Bagloriaeth Cymru) sydd yn bwnc gorfodol yma, gan barhau â thri pwnc a’r THS ym mlwyddyn 13. Mae’r arlwy pynciol yn eang, gyda 27 i gyrsiau yn cael eu cynnig yma yn ogystal â nifer o gyrsiau eraill o fewn Consortiwm Gwynedd a Môn.
Mae tim profiadol y Chweched ar gael bob amser i’ch cynghori a’ch helpu. Fe gewch drafod eich opsiynau ar gyfer y dyfodol a meithrin sgiliau a fydd yn werthfawr yn y gweithle. Ein nôd yw darparu’r gynhaliaeth a’r addysg orau i bob unigolyn fel bod ein myfyrwyr yn barod i gamu ymlaen i’r gweithle, i brentisiaeth neu i’r brifysgol.
Os hoffech fwy o wybodaeth neu os hoffech drafod unrhyw fater ymhellach, cofiwch gysylltu â mi. Edrychwn ymlaen at eich croesawu i’r Chweched!
Mrs Manon Davies
Pennaeth y Chweched
daviesm464@hwbcymru.net
01248 712287 est.2

Trydar
Tweets by DavidHughes6ed