Ffôn: 01248 712287 • E-bost: post@ysgoldavidhughes.org
Croeso i Ysgol David Hughes...
Mae Ysgol David Hughes yn gwasanaethu dalgylch de ddwyrain Môn, ardal amaethyddol yn bennaf gyda pheth diwydiant ysgafn sy’n nodweddiadol o’r ardal.
Mae hon yn ysgol gyfun ddwyieithog gyda thua 1141 o ddisgyblion rhwng 11-18 oed a thua 86 o athrawon yn ogystal â 55 o staff cefnogol.
Ein nod yw darparu i’r disgyblion addysg eang sy’n cynnwys elfennau cyfathrebu, llythrennedd, rhifedd, gwyddoniaeth, dyniaethau, celfyddydau mynegiannol, sgiliau ymarferol a thechnoleg. Mae llawer o bynciau yn defnyddio agweddau ar dechnoleg gwybodaeth ac rydym wedi buddsoddi’n sylweddol yn y maes hwn yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae gan yr ysgol hefyd ganolfan chwaraeon fodern sy’n cynnwys neuadd ddawns, ystafell ffitrwydd a neuadd chwaraeon fawr. Mae’r ganolfan hon yn agored i’r cyhoedd gyda’r nos ac ar benwythnosau.
Caiff disgyblion gyfle i gyfrannu tuag at wneud penderfyniadau drwy gyfrwng Cynghorau Blwyddyn a Chyngor Ysgol.
Llawlyfr yr Ysgol David Hughes 2025 (pdf)

GWYBODAETH DDIWEDDARAF
Llythyrau Rieni a Gwarcheidwad:
- 18.07.2025 Llythyr Diwedd Blwyddyn Haf 2025
- 19.07.2022 Llythyr Rhieni Haf 2022
- 01.10.2021 Llythyr Rhieni - Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr
- 01.09.2021 Llythyr Rhieni
>>> Llythyrau
Gwybodaeth Bwysig i Rhieni
- Ffurflen Gwyliau 2025 - 2026
- Gwyliau Ysgol 2025 - 2026
- Dewisiadau Ar Lein - Dyddiad Cau Dydd Gwener 7fed o Fawrth 2025
- Colofnau CA4 2025-2026
- Opsiynau Blwyddyn 9 ar gyfer Medi
Seremoni Gwobrwyo Disgyblion 19-20
Neges gan Blwyddyn 7 i Blwyddyn 6
Taith o amgylch yr ysgol hefo Bl. 12
ADYaCh
Gwefan ADY a Ch Gwynedd ac Ynys Môn
Os oes ganddo' chi unrhyw ymholiad ADY cysylltwch â Mr Tom Williams trwy dderbynfa'r ysgol.
Hysbysfwrdd
Nos Fercher, 4ydd o Fawrth - 6.00pm - Cyngerdd Gwyl Dewi
Nos Fawrth, 10fed o Fawrth 2026 - 3.40pm - 6.00pm - Noson Rieni Blwyddyn 9
Dydd Gwener, 13eg o Fawrth 2026 - DIWRNOD HMS - DIM YSGOL I'R DISGYBLION
Nos Fawrth, 17eg o Fawrth 2026 - 3.30pm - 6.00pm - Noson Opsiynau 6ed Dosbarth i Flwyddyn 11
Map
Swyddi
Ar gyfer Medi 2026:








